1.1 - Systemau digidol cysylltiedig a dyfeisiau clyfar
- Sut mae systemau digidol yn cysylltu â'i gilydd
- Y Rhyngrwyd Pethau (Internet of Things)
- Defnyddio
dyfeisiau clyfar mewn lleoliadau domestig, yr amgylchedd adeiledig a gweithgynhyrchu
- Effeithiau'r
Rhyngrwyd Pethau
Sut mae systemau digidol yn cysylltu â'i gilydd
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- prif gydrannau caledwedd cyfathrebu rhwydwaith a gallu esbonio eu rôl wrth drosglwyddo data
- protocolau a safonau
- protocolau a llwyfannau a ddefnyddir yn gyffredin gan systemau digidol.
Dylai dysgwyr allu esbonio sut mae'r canlynol yn gweithio:
- Ethernet
- Wi-Fi
- Bluetooth
- TCP/IP
- 2G(GSM)/2.5G(GPRS)/3G/4G/5G
- mathau cyffredin
o gyfryngau trosglwyddo:
- gwifredig (CAT5, CAT6, CAT6a)
- ffeibr (FTTC a FTTP)
- di-wifr (radio, microdon, lloeren, isgoch)
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- capasiti cymharol cyfryngau gwifredig, ffeibr a di-wifr
- gall rhwydweithiau fod yn wifredig neu'n ddi-wifr, yn Rhwydweithiau Ardal Leol (LANs/WLANs) neu'n Rhwydweithiau Ardal Eang (WANs)
- defnyddiau cyffredin o'r mathau hyn o rwydweithiau a'r gwahaniaethau mewn cyflymderau trosglwyddo rhwng LANs a WANs.
Defnyddio dyfeisiau clyfar mewn lleoliadau domestig, yr amgylchedd adeiledig a gweithgynhyrchu
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- y cyd-destunau y caiff dyfeisiau clyfar eu defnyddio ynddynt fel arfer:
- y cartref (e.e. seinydd clyfar, teledu, oergell, oriawr)
- yr amgylchedd adeiledig (e.e. gwresogi, goleuo, parcio)
- gweithgynhyrchu (e.e. Diwydiant 4.0, sganwyr, sbectol clyfar)
- y dechnoleg ategol, gan gynnwys:
- synwyryddion
- meddalwedd a thechnoleg cyfathrebu
- sut mae'r ddyfais (dyfeisiau) yn rheoli'r broses (prosesau) gofynnol
- effeithiau cadarnhaol a negyddol y technolegau sylfaenol
- effaith gymdeithasol, gyfreithiol, foesegol a phroffesiynol defnyddio dyfeisiau clyfar yn y cartref a'r gweithle
- effeithiau amgylcheddol y lluosogiad o ddyfeisiau yn nhermau eu gweithgynhyrchu, eu defnyddio a'u gwaredu, yn ogystal â defnyddio adnoddau cyfyngedig, fel trydan.
- y cyd-destunau y caiff dyfeisiau clyfar eu defnyddio ynddynt fel arfer:
Effeithiau'r Rhyngrwyd Pethau (Internet of things)
- Dylai dysgwyr
ddeall effeithiau cadarnhaol a negyddol y Rhyngrwyd Pethau.
- Dylai dysgwyr
ddeall effeithiau cadarnhaol a negyddol y Rhyngrwyd Pethau.