1.2 - Datblygiad Deallusrwydd Artiffisial
- Deallusrwydd
Artiffisial (Artificial Intelligence)
- Dysgu Peirianyddol (Machine Learning)
- Roboteg
- Cymwysiadau,
swyddogaethau a
ffyrdd posibl o ddefnyddio systemau
AI
- Effeithiau AI
- Deallusrwydd
Artiffisial (Artificial Intelligence)
Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- y term Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn nhermau efelychu ymddygiad deallusol gan gyfrifiadur sy'n galluogi peiriant i wneud penderfyniadau heb ymyrraeth gan fod dynol
- cysyniadau damcaniaethol Deallusrwydd Cyffredinol Artiffisial (AGI) a Deallusrwydd Cul Artiffisial (AI/ANI Arbenigol) a'r gwahaniaethau rhyngddynt
Dylai dysgwyr allu disgrifio'r profion canlynol a ddefnyddir i gadarnhau AGI ar lefel dyn a sut y cânt eu cymhwyso:
- Prawf Turing
- Prawf Coffi Wozniak/Goertzel
- Prawf Cyflogaeth Nilsson
- Prawf Robot-fyfyriwr Coleg Goertzel
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- tri galluogwr AI a sut mae'r rhain wedi effeithio ar luosogiad AI:
- y twf esbonyddol yng nghyflymder cyfrifiaduron
- Deddf Huang
- cyfrifiadura cwmwl
- cyfyngiadau moesegol AI a'r goblygiadau cymdeithasol
Dysgu Peirianyddol (ML)
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- Dysgu Peirianyddol (ML) yw un o is-setiau Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn nhermau algorithmau a all addasu heb ddilyn cyfarwyddiadau amlwg
- y gwahaniaeth rhwng algorithmau traddodiadol ac algorithmau a ddefnyddir mewn AI yn nhermau:
- canlyniadau algorithmau dysgu peirianyddol yn dangos tebygolrwydd ac nid sicrwydd
- y cyfarwyddiadau heb eu gosod ymlaen llaw ond wedi'u dysgu o 'ddata hyfforddiant'
- y gwahaniaeth rhwng dysgu dan oruchwyliaeth, dysgu dan oruchwyliaeth rannol a dysgu heb oruchwyliaeth o fewn ML
Roboteg
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- y term robot
- prif gydrannau systemau roboteg cyfoes a rôl y cydrannau hyn
- y mathau canlynol o raglennu a ddefnyddir ar gyfer robotiaid:
- Ar-lein:
- Rhaglennu Teclyn Addysgu (Teach Pendant) (Gyrru Drwodd)
- Addysgu drwy Esiampl (Arwain Drwodd)
- All-lein:
- Rhaglennu graffigol-all-lein (efelychu)
- Ar-lein:
- y defnydd o fathau gwahanol o robotiaid mewn amrywiaeth o senarios (e.e. y cartref, addysg, gweithgynhyrchu)
- manteision ac anfanteision perthynol defnyddio robotiaid mewn amrywiaeth o senarios (e.e. mwy o gysondeb, costau llafur is, costau cychwynnol uwch, effeithiau ar gyflogaeth)
- y pryderon a all fod gan unigolion am ddatblygu robotiaid ymreolaethol (e.e. gwneud penderfyniadau mewn argyfwng, ofn cael eu disodli, ynysu cymdeithasol)
- canlyniadau anfwriadol posibl datblygu robotiaid ymreolaethol (e.e. cael gwared ar swyddi heb sgiliau, diffyg atebolrwydd, dad-ddynoli)
- sut y gall datblygwyr ddiogelu yn erbyn canlyniadau anfwriadol o'r fath (e.e. rheolau Asimov, cydymffurfio â fframwaith cyfreithiol a moesegol)
- y goblygiadau cymdeithasol a moesegol sy'n gysylltiedig â chynnydd yn y defnydd o roboteg.
Cymwysiadau, swyddogaethau a ffyrdd posibl o ddefnyddio systemau AI
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- technolegau sylfaenol AI, gan gynnwys:
- tebygolrwydd amodol
- peiriannau awgrymu
- rheolau adnabod a rhagfynegi patrymau
- rhwydweithiau niwral fel hafaliadau gan ddefnyddio:
- modelau masfawr
- data masfawr
- mentro a methu
- Dysgu Dwfn
- mathau o broblemau y gall AI eu datrys, gan gynnwys:
- Lleoli a Mapio Cydamserol (SLAM)
- adnabod ieithoedd
- cyfieithu peirianyddol
- canfod anomaleddau
- adnabod delweddau
Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r canlynol:
- ffyrdd cyffredin o ddefnyddio AI, gan gynnwys:
- peiriannau cyfieithu
- gofal iechyd
- seiberddiogelwch
- cludiant
- adloniant
- addysg (i ganfod llên-ladrad)
- gorchmynion llais (llais i destun/data clyfar)
- rhwydweithio cymdeithasol (tagio awtomatig)
- siopa (chwilio/argymell)
- cyllid (twyll/credyd)
- cyfathrebu (hidlo).
- technolegau sylfaenol AI, gan gynnwys:
Effeithiau AI
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- y pryderon posibl a achosir gan luosogiad AI
- ffyrdd o ddiogelu rhag canlyniadau anfwriadol defnyddio AI, gan gynnwys rheoleiddio.