1.4 - Dyluniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, profiad y defnyddiwr a'r rhyngweithio rhwng dyn a chyfrifiadur wrth ddatblygu systemau digidol
- Y rhyngweithio rhwng dyn a chyfrifiadur
- Dylunio sy'n Canolbwyntio
ar y Defnyddiwr (UCD)
- Profiad Defnyddiwr Digidol (DUX)
- Y rhyngweithio rhwng dyn a chyfrifiadur
Y rhyngweithio rhwng dyn a chyfrifiadur
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- y rhyngweithio rhwng dyn a chyfrifiadur fel astudiaeth o'r Rhyngwyneb Defnyddwyr rhwng pobl a chyfrifiaduron
- rhyngwynebau a dulliau mewnbynnu
- mathau o ddulliau mewnbynnu a rhyngwynebau defnyddwyr a chymhariaeth ohonynt, a'r cyfiawnhad dros eu defnyddio mewn amgylchiadau gwahanol
- materion cymdeithasol ac iechyd sy'n gysylltiedig â'r rhyngweithio rhwng dyn a chyfrifiadur a'u heffaith wrth ddefnyddio'r canlynol:
- dyfeisiau symudol
- dyfeisiau bwrdd gwaith a gliniaduron
- dyfeisiau perifferol
- dyfeisiau realiti estynedig a realiti rhithwir
- cymwysiadau meddalwedd
- dulliau o liniaru'r materion hyn.
Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (user centred design)
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (UCD) yn nhermau proses iterus lle bydd dylunwyr yn canolbwyntio ar y defnyddwyr a'u hanghenion yn ystod pob cam o'r broses ddylunio
- diben UCD o ran y ffaith bod y cynnyrch yn cael ei ddylunio i ddiwallu anghenion y defnyddiwr yn hytrach na bod y defnyddiwr yn gorfod addasu i'r cynnyrch
- pum egwyddor UCD:
- dealltwriaeth glir o ofynion defnyddwyr a'r dasg
- ymgorffori adborth defnyddwyr
- cynnwys y defnyddiwr yn weithredol er mwyn gwerthuso dyluniad cynnyrch
- integreiddio UCD â gweithgareddau datblygu eraill
- proses ddylunio iterus
- pedwar cam y broses UCD:
- pennu'r cyd-destun ar gyfer ei defnyddio
- pennu gofynion
- creu datrysiadau dylunio
- gwerthuso dyluniadau
- sut y caiff gofynion eu nodi a'u mireinio drwy:
- astudiaeth ethnograffig
- adborth parhaus
- ymholiad cyd-destunol
- prototeip a phrofi defnyddioldeb
- defnyddio adnoddau a ddefnyddir yn y broses UCD, gan gynnwys:
- persona
- senarios
- achosion defnyddio
- prif ystyriaethau UCD:
- gwelededd
- hygyrchedd
- eglurder
- iaith
Profiad Defnyddiwr Digidol (DUX)
Dylai dysgwyr ddeall y canlynol:
- Profiad Defnyddiwr Digidol (DUX) yn nhermau:
- dylunio
- y gallu i lywio
- perfformiad
- effeithlonrwydd
- cydnawsedd ar draws llwyfannau
- cwmpas DUX o amgylcheddau ar-lein traddodiadol ac apiau i amgylcheddau mwy diweddar, fel:
- technoleg wisgadwy
- realiti rhithwir neu estynedig
- yr elfennau a ddefnyddir wrth ystyried a gwerthuso DUX, gan gynnwys:
- estheteg dylunio
- saernïaeth gwybodaeth
- hygyrchedd
- y rhyngweithio rhwng dyn a chyfrifiadur
- ergonomeg
- defnyddioldeb
- perfformiad
- y metrigau a ddefnyddir i brofi a gwerthuso'r elfennau uchod, gan gynnwys:
- cyfradd llwyddiant tasgau
- amser cwblhau tasgau
- cyfradd cofusrwydd
- cyfradd trawsnewid
- cyfradd gwallau
- boddhad
- gwerthusiad hewristig
- Profiad Defnyddiwr Digidol (DUX) yn nhermau: