1.5 - Swyddogaethau, dibenion a'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol gan unigolion a sefydliadau
- Y mathau o gyfryngau cymdeithasol
- Swyddogaethau
cyfryngau cymdeithasol
- Diben cyfryngau
cymdeithasol a'u defnydd
- Effeithiau
defnyddio cyfryngau cymdeithasol
Y mathau o gyfryngau cymdeithasol
Dylai dysgwyr ddeall cyfryngau cymdeithasol yn nhermau llwyfannau digidol sy'n ei gwneud hi'n bosibl i greu neu rannu gwybodaeth drwy rithgymunedau.
Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o'r canlynol:
- y mathau gwahanol o gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys:
- safleoedd rhwydweithio cymdeithasol
- rhwydweithiau rhannu cyfryngau
- rhwydweithiau trafod
- nodi tudalennau a churadu cynnwys
- rhwydweithiau adolygu defnyddwyr
- rhwydweithiau blogio
- rhwydweithiau siopa cymdeithasol
- rhwydweithiau cymdeithasol yn seiliedig ar ddiddordebau
- rhwydweithiau cymdeithasol dienw
- cyfryngau cymdeithasol a chwarae gemau cyfrifiadurol ar y cyd
- prif nodweddion a swyddogaethau'r mathau hyn o gyfryngau cymdeithasol.
- y mathau gwahanol o gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys:
Swyddogaethau cyfryngau cymdeithasol
Dylai dysgwyr fod yn ymwybodol o swyddogaethau'r mathau gwahanol o gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys:
- gosod proffiliau
- statws/negeseuon ar wal
- uwchlwytho cyfryngau
- negeseua
- hysbysiadau
- cyflenwadau newyddion
- sylwadau/ymatebion
- rhannu
- arbed/nodi tudalennau
- gosodiadau preifatrwydd a diogelwch
- integreiddio â llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill.
Diben cyfryngau cymdeithasol a'u defnydd
Dylai dysgwyr ddeall diben, a goblygiadau cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol y ffyrdd gwahanol y caiff cyfryngau cymdeithasol eu defnyddio gan:
- unigolion
- sefydliadau
Effeithiau defnyddio cyfryngau cymdeithasol
Dylai dysgwyr ddeall effeithiau cadarnhaol a negyddol y ffyrdd y caiff cyfryngau cymdeithasol eu defnyddio gan unigolion a sefydliadau.