Cymdeithaseg Uned 1:
Y Craidd Gorfodol
Bydd y disgyblion yn astudio’r broses o gymdeithasoli a’i heffaith ar ymddygiad unigolion. Byddent yn edrych ar y ffactorau hynny sy’n effeithio ar ymddygiad unigolion o fewn y gymdeithas gan gymryd i ystyriaeth rôl y teulu, addysg, y cyfryngau, ffrindiau a chrefydd. Bydd y disgyblion hefyd yn dysgu am wahanol stereoteipiau sydd yn rhan o’n cymdeithas a sut caiff y rhain eu creu a’u heffaith ar unigolion.
Opsiwn
Fel opsiwn rydym yn astudio’r Cyfryngau Torfol. Mae gan y cyfryngau torfol rôl ganolog yn ein cymdeithas. Bydd y disgyblion yn dysgu sut caiff normau, gwerthoedd a diwylliant eu gosod gan y cyfryngau torfol. Byddent yn edrych ar ddylanwad y cyfryngau ar ymddygiad unigolion a sut gall rolau rhywedd, stereoteipiau a rhagfarn parhau neu ddatblygu yn sgil y cyfryngau.
Y Cyfryngau Torfol |
|
- Athro: Cerys Williams (Teacher)
Cymdeithaseg Uned 2:
Y Craidd Gorfodol
Bydd y disgyblion yn edrych ar yr anghydraddoldebau gwahanol sy’n bodoli o fewn ein cymdeithas e.e. tlodi a chyfoeth, rhywiaeth, hiliaeth, gwahaniaethu ar sail oedran/anabledd. Byddent yn edrych ar y statws sydd gan berson o fewn y gymdeithas a beth sy’n ennill statws. Byddent yn edrych ar ffynonellau o rym ac awdurdod ac yn cysylltu’r rhain gyda theoriau Marcsaidd/Ffeministaidd.
Opsiwn
Fel opsiwn, rydym yn astudio Trosedd a Gwyredd. Bydd y disgyblion yn dysgu bod dosbarth, rhywedd, oedran ac ethnigrwydd yn ffactorau sy’n gysylltiedig â phatrymau trosedd a gwyredd, yn nhermau pwy sy’n troseddu a phwy yw dioddefwyr trosedd. Byddent yn edrych ar y system cyfiawnder troseddol ac yn ystyried a yw’r driniaeth gan y system yn rhywbeth arall sy'n golygu bod anghydraddoldeb yn parhau yn y gymdeithas.
Trosedd a Gwyredd |
|
- Athro: Cerys Williams (Teacher)