Amlinelliad o'r testun

  • Uned 2 Datrys Problemau

    Personoli
    Mae cwmni yn gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion wedi'u personoli. Mae'r cynhyrchion yn cynnwys crysau T, llyfrau stori i blant, dillad chwaraeon, mygiau, bagiau, dodrefn ac ati. Mae'r cwmni yn anfon cylchlythyrau allan i hysbysebu ei gynhyrchion. Yn ogystal, mae'r cwmni eisiau datblygu cyfleuster ar-lein i hysbysebu ei gynhyrchion.
    Mae manylion archebion cwsmeriaid a'r personoli yn cael eu cadw ar gronfa ddata.
    Mae'r cwmni yn cadw cofnod o'i holl werthiant ac elw ar daenlen.

  • Tasg 1

    Trefnu a storio'r wybodaeth hon mewn strwythur ffolder addas  (5 marc)

    Rhaid i chi drefnu eich gwaith fel bod modd dod o hyd iddo yn hawdd a dylech ddefnyddio enwau addas ar gyfer ffolderi a ffeiliau. Sicrhewch eich bod wedi gwneud copïau wrth gefn priodol.

    Assignment: 1
  • Tasg 2 : Ymchwil

    Ymchwil (6 marc)

    Casglwch wybodaeth a lluniau am gynhyrchion addas.
    Cadwch gofnod a thystiolaeth o'ch ffynonellau gwybodaeth a chadwch y wybodaeth hon mewn ffolderi priodol. Gallwch ddefnyddio dulliau ar-lein a rhai nad ydynt yn electronig i gasglu data.

    Assignment: 1
  • Tasg 3 + 4 : Drafft 1 Cylchlythyr + Cyflwyniad

    Cyfathrebu gwybodaeth (2 farc)

    Crëwch y drafft cyntaf o gylchlythyr a gyflwyniad yn cynnwys manylion y cynhyrchion mae'r cwmni yn eu cynnig.

    Aseiniadau: 2
  • Tasg 5 : E-bost

    Tasg 5  (6 marc)

    Atodwch ddrafftiau cyntaf eich cylchlythyr a'r cyflwyniad neu dudalennau gwe mewn e-bost addas a'i anfon at ffrind neu grŵp o gysylltiadau yn gofyn am eu sylwadau ar sut i wella eich dau ddrafft.
    Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw tystiolaeth sgrinlun.
    Agorwch yr ymateb neu ymatebion a anfonwyd atoch a naill ai eu hargraffu neu eu cadw ar fformat addas i'w defnyddio'n hwyrach ymlaen.

    Assignment: 1
  • Tasg 6 + 7 Gwerthuso ffurfiannol

    Adolygu (6 marc)

    (i) Rhowch sylwadau ar sut byddai modd gwella eich gwaith eich hun.


    (ii) Rhowch ystyriaeth i'r sylwadau sgrinlun a dderbyniwyd gan eraill am eich drafftiau.

    Ailddrafftio mewn ymateb i sylwadau (2 farc)

    (i) Gwnewch welliannau i'ch cylchlythyr gan ddefnyddio'r cyngor a dderbyniwyd a'ch syniadau eich hun.


    (ii) Gwnewch welliannau i'ch cyflwyniad neu dudalennau gwe gan ddefnyddio'r cyngor a dderbyniwyd a'ch syniadau eich hun.

    Aseiniadau: 6
  • Tasg 8 : Cylchlythyr + Cyflwyniad Terfynol + Tystiolaeth sgiliau

    Cynhyrchu dogfennau terfynol (14 marc)

    Tasg 8

    (i) Taflen
     Cwblhewch y cylchlythyr gan ddefnyddio sgiliau sylfaenol ac uwch

     Gwiriwch ei fod yn gywir.


    (ii) Cyflwyniad 
     Cwblhewch y cyflwyniad neu'r tudalennau gwe gan ddefnyddio sgiliau sylfaenol ac uwch
     Gwiriwch ei fod yn gywir

    Aseiniadau: 4Adnodd: 1
  • Tasg 9 + 10 + 11 Trin Data

    Tasg 9 + 10 + 11 Trin Data (16 marc)

    Datblygwch y ffeil ddata 'Archebion’.
    Er mwyn gwneud hyn rhaid i chi gwblhau'r canlynol

    (i) Mewnforio i gronfa ddata y ffeil CSV 'Archebion' y bydd eich athro yn ei rhoi i chi.


    (ii) Ychwanegu techneg ddilysu addas i'r maes allweddol ID Archebion.

    (iii) Ar wahân i fanylion cyfeiriadau a chysylltiadau, ychwanegwch hyd at bedwar maes addas ychwanegol; sicrhewch fod mathau data addas ac amrywiaeth o fathau o ddata.


    (iv) Ychwanegu manylion unrhyw ddau gofnod synhwyrol at y gronfa ddata sy'n bodoli ar hyn o bryd.

    (v) Mae James Anders wedi canslo ei archeb. Dilëwch y cofnod hwn o'r gronfa ddata.

    Tasg 10 

    Tasg 10
    Defnyddiwch eich ffeil ddata i:


    (i) Drefnu'r gronfa ddata yn ei threfn esgynnol yn ôl Dyddiad yr Archeb er mwyn dod o hyd i archeb yn gyflym.


    (ii) Chwilio am y cwsmeriaid sydd wedi archebu Llyfr Stori i roi gwybod i gwsmeriaid bod oedi'n mynd i fod.


    Crëwch a chadwch restr o'r cwsmeriaid hyn yn unig.

    (iii) Mae'r cwmni eisiau dod o hyd i gwsmeriaid sydd wedi archebu un pâr o Esgidiau Hyfforddi yn unig, gan eu bod am annog y cwsmeriaid hyn i brynu pâr ychwanegol.

    Crëwch a chadwch restr o'r cwsmeriaid hyn yn unig.

    (iv) Dangos bod y dechneg ddilysu'n gweithio.

    Tasg 11 (4 marc)

    Gan ddefnyddio sgiliau uwch, gwnewch bedwar gwelliant arall i'r gronfa ddata hon.

    Assignment: 1Adnodd: 1
  • Tasg 12 - Modelu

    Tasg 12 + 13 (14 marc)

    Modelu

    1. Crëwch fodel taenlen i:

     storio manylion archebion;

     storio manylion yr amrywiol opsiynau ar gyfer llythrennu / argraffu ac ati a'r costau;

     storio manylion nodweddion ychwanegol fel yswiriant neu opsiynau danfon a'u costau;

     storio manylion am ddisgownt ar gyfer archeb fawr.


    2. Rhaid i'ch taenlen allu:
     cyfrifo yn awtomatig gyfanswm cost pob archeb gyda'r opsiynau a ddewiswyd;
     cyfrifo disgownt ar archeb fawr;
     cyfrifo yn awtomatig gyfanswm elw pob archeb;
     cyfrifo yn awtomatig y cyfanswm elw cyffredinol o'r holl archebion.

     

    3. Rhaid i chi gynhyrchu graff i gymharu'r elw o bob archeb.


    4. Cwblhewch y daenlen:


     gan ddefnyddio sgiliau sylfaenol a phedwar o sgiliau uwch;
     Gwiriwch ei bod yn gywir ac i wneud yn siŵr nad yw'n cynnwys data annhebygol;
     Cynhyrchwch sgrinlun o'r daenlen gyfan gan ddangos y data a'r fformiwlâu;
     Ysgrifennwch esboniad o'r data, fformiwlâu, swyddogaethau ac unrhyw nodweddion eraill rydych wedi'u defnyddio.


    Tasg 13 (2 farc)


    Defnyddiwch y daenlen hon i wneud o leiaf dau ymchwiliad 'beth os'.


    (i) Gallai un o'ch ymchwiliadau 'beth os' olygu newid un eitem o ddata rhifiadol yn unig. Rhaid i chi ddisgrifio pwrpas eich ymchwiliad a chanlyniad eich ymchwiliad.


    (ii) Rhaid i'r ymchwiliad 'beth os' arall newid fformiwla sy'n bodoli'n barod. Rhaid i chi ddisgrifio pwrpas eich ymchwiliad a chanlyniad eich ymchwiliad.

    Assignment: 1
  • Tasg 14 - Gwerthusiad Crynodol

    Gwerthusiad Crynodol (7 marc)
    Tasg 14
    Cynhyrchwch werthusiad o'ch gwaith. Dylech gynnwys gwerthusiad o'r canlynol;


     dadansoddiad o ddata a gwybodaeth sy'n cael eu defnyddio mewn modelu
     dadansoddiad o ddata a gwybodaeth sy'n cael eu defnyddio wrth drin data
     gwerthusiad o'r dogfennau terfynol, y tudalennau gwe neu'r cyflwyniad a gynhyrchwyd ac adolygiad o'r adborth a roddwyd ac a dderbyniwyd
     gwerthusiad o offer a thechnegau eraill
     awgrymiadau ar gyfer gwella
     dadansoddiad o ddulliau ymchwil / data
     gwerthusiad o arfer gweithio.

    Assignment: 1